Cod Ymddygiad
Mae Partneriaeth Natur Leol Ceredigion (y Bartneriaeth) yn seiliedig ar themâu amrywiaeth, cynwysoldeb, cydraddoldeb, cynaliadwyedd a hygyrchedd, ac mae’n dod â chyfranogwyr o wahanol gefndiroedd ynghyd o bob rhan o Geredigion a Chymru. Rydym yn gwneud ein gorau glas i sicrhau bod y Bartneriaeth yn ofod proffesiynol diogel a chroesawgar i bob aelod. I sicrhau bod hyn yn digwydd, rydym yn disgwyl i bob aelod ymlynu wrth y cod ymddygiad hwn bob amser pan fydd yn rhyngweithio â’r Bartneriaeth ac ar bob llwyfan y gellir ei gyrchu fel rhan o’r Bartneriaeth (fel gwefannau, cyfryngau cymdeithasol ac unrhyw lwyfan arall).
Ymddygiad disgwyliedig
- Mae pob aelod i gael ei drin mewn ffordd ystyriol a chyda pharch, gan roi gwerth ar amrywiaeth y safbwyntiau a’r syniadau y mae’n eu cyfrannu at lwyddiant y Bartneriaeth.
- Dylai aelodau’r Bartneriaeth hefyd drin staff y Bartneriaeth yn yr un ffordd ystyriol a ddisgrifir uchod.
- Dylai unrhyw feirniadaeth fod yn adeiladol ac yn seiliedig ar syniadau, ac nid yn ymosodiadau personol ar unigolion. Nid yw archwiliad beirniadol o syniadau a chasgliadau, ynddo’i hun, yn gyfystyr ag ymddygiad gelyniaethus nac aflonyddu. Dylai trafodaethau fod mor agored a chynhwysol â phosibl, a dylai’r aelodau fod yn ymwybodol o’r argraff y gall eraill ei chael o’r iaith neu’r delweddau a ddefnyddir ganddynt. Rhaid i bawb ymdrechu i ddeall y naill safbwynt a’r llall, h.y. dylid mynegi beirniadaeth mewn ffordd barchus a’i chyfeirio at syniadau penodol, a dylid derbyn y feirniadaeth honno yn ysbryd trafod syniadau posibl, yn hytrach na’i chymryd yn bersonol, oni bai iddi gael ei mynegi yn y ffordd honno.
- Yn ychwanegol at y cod ymddygiad hwn, disgwylir hefyd i’r aelodau ymlynu wrth ganllawiau a thelerau ac amodau llwyfannau eraill (Facebook, YouTube, ac ati) y gallent eu cyrchu drwy’r Bartneriaeth.
- Disgwylir i’r aelodau fod yn ystyriol o’r gofod rhithiol o’u hamgylch ac o’u cyd-gyfranogwyr yn ystod cyfarfodydd. Os bydd aelodau’n profi ymddygiad annerbyniol neu amhriodol, neu’n sylwi ar ymddygiad o’r fath, y gellir ei ddehongli fel ymddygiad sy’n torri un neu ragor o ofynion y cod ymddygiad hwn (gweler yr adran am ymddygiad annerbyniol), dylai’r aelodau geisio dogfennu’r ymddygiad hwnnw â thystiolaeth (e.e. cipluniau o negeseuon ar Facebook ac ati) i’w chyflwyno i staff y Bartneriaeth er mwyn iddynt gymryd camau pellach. Dylai aelodau roi gwybod i aelod o staff y Bartneriaeth cyn gynted â phosibl (gweler yr adran am roi gwybod am achosion o dorri gofynion y cod ymddygiad). Nid yw’n ofynnol i’r sawl sy’n rhoi gwybod am achos o’r fath drafod y pryder â’r troseddwr honedig, ac nid oes disgwyl iddo wneud hynny.
Ymddygiad annerbyniol
I sicrhau bod yr aelodau’n gwybod am ymddygiadau yr ystyrir eu bod yn annerbyniol, rhestrir ymddygiadau o’r fath isod, ond nid yw’r rhestr hon yn gyflawn:
- Aflonyddu, bwlio, microymosodedd, bygylu ac ensyniadau sy’n greulon (e.e. ymddygiad diraddiol, neu iaith lafar, fel sarhad personol neu iaith rywiaethol, hiliol, homoffobig, trawsffobig, oedraniaethol neu ableddol).
- Pob sylw (geiriol ac ar lafar) sy’n ymwneud â rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd, ymddangosiad corfforol, maint corff, hil, crefydd, cenedligrwydd.
- Pob sylw (geiriol ac ar lafar) sy’n atgyfnerthu strwythurau cymdeithasol dominyddiaeth sy’n ymwneud â rhywedd, hunaniaeth a mynegiant rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd, ymddangosiad corfforol, maint corff, hil, oedran, crefydd.
- Defnydd amhriodol o noethni a/neu ddelweddau rhywiol ar lwyfannau ac mewn gofodau rhwydweithio a ddarperir gan y Bartneriaeth.
- Bygwth neu stelcio.
- Dadlau o blaid unrhyw un neu ragor o’r ymddygiadau uchod, neu annog ymddygiadau o’r fath.
Ymddygiad annerbyniol sy’n ymwneud yn benodol â llwyfannau ar-lein/gofodau rhwydweithio
- Sbamio drwy anfon llawer o negeseuon y naill ar ôl y llall. Gall hyn hefyd gynnwys defnydd amhriodol o wepluniau neu GIFiau.
- Hysbysebion ymwthgar: ni ddylai negeseuon a phostiadau ond cynnwys deunydd sy’n berthnasol i’r Bartneriaeth ac sydd o werth gwirioneddol i aelodau eraill.
- Enwau a lluniau proffil ffug neu amhroffesiynol ar unrhyw lwyfannau ar-lein ac mewn unrhyw ofodau rhwydweithio sy’n ymwneud â’r Bartneriaeth.
- Rhannu gwybodaeth bersonol eraill heb eu caniatâd.
- Rhannu cynnwys anghyfreithlon neu ddynwaredol, yn enwedig deunydd o dan hawlfraint neu feddalwedd wedi’i dwyn. Mae hyn hefyd yn cynnwys rhannu offer neu wasanaethau anawdurdodedig, rhannu feirysau, maleiswedd neu feddalwedd faleisus.
- Rhannu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol: dylid sicrhau bod ffeithiau’n cael eu cadarnhau ac mai dim ond gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy a rennir. Gall lledaenu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol fod yn niweidiol, ac mae’n tanseilio ymddiriedaeth ac uniondeb y gymuned.
- Dynwared defnyddwyr, unigolion neu sefydliadau eraill, yn enwedig defnyddio enwau defnyddwyr, lluniau neu enwau arddangos penodol.
- Mynd ati’n fwriadol i darfu ar sgyrsiau neu i greu amgylchedd anghyfeillgar, drwy drolio, fflamio neu ddadlau’n ormodol.
- Osgoi gwaharddiadau neu fudyddion drwy greu cyfrifon amgen neu ddefnyddio dulliau eraill o’u hosgoi.
Os bydd unrhyw gŵyn yn dod i law staff y Bartneriaeth ynghylch ymddygiad aelod o’r Bartneriaeth nad yw’n dod o fewn y ddwy restr hyn, mae staff y Bartneriaeth yn cadw’r hawl, yn ôl eu disgresiwn, i drin cwynion o’r fath yr un mor llym â’r ymddygiadau a geir yn y rhestrau hyn.
Rhoi gwybod am achosion o dorri gofynion y cod ymddygiad
Gallwch roi gwybod am achosion o dorri gofynion y cod ymddygiad drwy anfon e-bost i’n blwch e-bost swyddogol: biodiversity@ceredigion.gov.uk. Pan fyddwch yn gwneud hyn, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi testun priodol yn llinell pwnc yr e-bost (e.e. Torri Cod Ymddygiad Partneriaeth Natur Ceredigion) i sicrhau bod modd inni gael hyd i’r e-bost ac ymateb iddo cyn gynted â phosibl.
Canlyniadau
Bydd staff y Bartneriaeth yn ymdrin â phob sefyllfa y mae un neu ragor o ofynion y cod ymddygiad yn cael eu torri ynddi (pa un a yw’n cael ei nodi gan staff y Bartneriaeth neu’n dod i’w sylw drwy law aelod, a pha un a yw’n ymwneud ag aelodau’r Bartneriaeth neu aelod arall o staff y Bartneriaeth) fel a ganlyn:
- Byddwn yn ymdrin â phob cwyn yn ddifrifol a byddwn yn ymchwilio iddi yn brydlon.
- Bydd staff y Bartneriaeth yn gofyn i unrhyw un sy’n ymddwyn mewn ffordd annerbyniol roi’r gorau i’r ymddygiad hwnnw. Bydd disgwyl i unrhyw un y gofynnir iddo wneud hynny gydymffurfio ar unwaith.
- Mae’r Bartneriaeth yn cadw’r hawl i wahardd aelod o unrhyw un neu ragor o ddigwyddiadau’r Bartneriaeth, yn awr ac yn y dyfodol, o ganlyniad i’w weithredoedd. Bydd difrifoldeb a hyd y gwaharddiad hwn yn dibynnu ar yr amgylchiadau o dan sylw.
- Byddwn yn cynnal cyfrinachedd i’r graddau y caniateir hynny, ar yr amod nad yw’n niweidio hawliau pobl eraill. I gynnal diogelwch a chyfrinachedd yr achwynydd/dioddefwr yn y gŵyn, ni fydd dim camau penodol a fydd yn datgelu pwy yw’r unigolion hyn yn cael eu cymryd heb ymgynghori â’r achwynydd/dioddefwr na heb eu cymeradwyaeth.
Rydym yn gobeithio y bydd y cod ymddygiad hwn yn sicrhau y bydd eich profiad o ymwneud â Phartneriaeth Natur Ceredigion yn ddiogel ac yn hwyl. Byddwn bob amser yn croesawu awgrymiadau ac adborth, ac os oes gennych unrhyw sylwadau i wella’r ddogfen hon, mae croeso ichi eu hanfon atom drwy e-bost: biodiversity@ceredigion.gov.uk.