post-image

Mae’r Bartneriaeth yn gwahodd unigolion a busnesau preifat, ffermwyr a thyfwyr, llywodraeth leol, gwasanaethau iechyd, addysgwyr ac academyddion, yn ogystal ag elusennau a sefydliadau cymunedol, i gydweithio er mwyn creu strategaeth fwyd gynaliadwy a gwydn ar gyfer pobl Ceredigion.

Rydym yn credu y dylai pawb gael mynediad at fwyd ffres, beth bynnag eu hincwm, ac y gall mwy o’r bwyd hwn gael ei dyfu a’i gynhyrchu yn lleol mewn modd cynaliadwy gan gefnogi bioamrywiaeth, camau i adfer natur ac economi leol lewyrchus.

Ein gweledigaeth yw digonedd o fwyd blasus ar ein cyfer ni heddiw ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Partneriaeth Bwyd Ceredigion

Mynd i'r wefan
Ein nod yw cysylltu pobl ledled system fwyd Ceredigion, er mwyn creu rhwydwaith sy’n cefnogi, yn dysgu ac yn cydweithio.
Safleoedd: