post-image

Mae Gwarchod Glöynnod Byw yn dewis bod ar flaen y gad yn y frwydr dros ein byd naturiol. I wneud hyn, mae angen inni adeiladu ar ein llwyddiannau a bod hyd yn oed yn fwy effeithiol, i roi ffocws i’n hadnoddau er mwyn iddynt gael mwy o effaith. Rhaid inni greu cyfleoedd cryfach i gydweithio, bod yn rhan o’r gwaith o adfer natur ar raddfa fwy, ac ymgyrraedd ymhellach i sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad i fyd rhyfeddol glöynnod byw a gwyfynod.

Mae i’r strategaeth Achub Glöynnod Byw a Gwyfynod dri nod strategol

  1. Haneru nifer rhywogaethau’r Deyrnas Unedig o löynnod byw a gwyfynod sydd o dan fygythiad
  2. Gwella cyflwr 100 o’r tirweddau pwysicaf i löynnod byw a gwyfynod
  3. Trawsnewid 100,000 o ofodau gwyllt yn y Deyrnas Unedig ar gyfer pobl, glöynnod byw a gwyfynod

Dolen i’r Saving Butterflies and Moths: our 2021-2026 strategy

Gwarchod Glöynnod Byw

Mynd i'r wefan
Elusen sy’n gweithredu ledled y Deyrnas Unedig i warchod glöynnod byw, gwyfynod a’r amgylchedd, gan ddefnyddio ein hymchwil i roi cyngor ar sut i warchod ac adfer cynefinoedd glöynnod byw a gwyfynod a sut i gynnal prosiectau i warchod mwy na 100 rhywogaeth o lepidoptera.
Prosiectau:
Prosiect Brithegion Brown Bro Morgannwg, Prosiect Brithegion y Gors De Rhondda, Prosiect Partneriaeth Coedwigaeth