Rhwydwaith Wardeiniaid Coed Ceredigion

Rhwydwaith Wardeiniaid Coed Ceredigion

Dewch i fod yn Warden Coed gyda Phartneriaeth Natur Leol Ceredigion.

Oes gennych chi ychydig oriau i’w sbario ac a hoffech chi wneud gwahaniaeth go iawn i natur yn eich cymuned?

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i ymuno â’n tîm o Wardeiniaid Coed. Does dim angen unrhyw brofiad – byddwn ni’n darparu:

  • Hyfforddiant llawn
  • Cyfarpar diogelu personol
  • Yr holl offer y bydd arnoch eu hangen, o fewn rheswm.

Ar hyn o bryd, rydym yn chwilio’n bennaf am wirfoddolwyr i helpu i ddyfrhau coed sydd newydd gael eu plannu yn Nhal-y-bont ac Aberystwyth, ond rydym yn awyddus i recriwtio Wardeiniaid Coed o bob cwr o Geredigion i gynorthwyo i blannu a gofalu am goed ar draws y sir yn y dyfodol.

Cysylltwch â TreeWardenNetwork@ceredigion.gov.uk heddiw i gael gwybod mwy ac i ymuno â rhwydwaith cynyddol o bobl sy’n gofalu am ein hamgylchedd lleol.

Student hand on mossy Sycamore tree Gyda’n gilydd, gallwn helpu coed Ceredigion i ffynnu am genedlaethau i ddod.