Diolch, Môr

Diolch, Môr

Wedi’i chreu gan grŵp Rhieni ar gyfer Dyfodol Ceredigion ar y cyd â Phartneriaeth Natur Leol Ceredigion, gyda chyllid o gynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, ffilm gymunedol newydd yw Diolch, Môr – Thank You, Sea sy’n dathlu arfordir Ceredigion ac yn amlygu mor bwysig yw gwarchod yr amgylchedd morol.

Cynhyrchwyd Diolch, Môr – Thank You, Sea gan Rhieni ar gyfer Dyfodol Ceredigion, sef cangen leol o’r sefydliad cenedlaethol sy’n gweithio i sicrhau dyfodol mwy diogel a theg i blant. Daw’r ffilm â lleisiau, profiadau ac atgofion pobl leol o bob cwr o’r sir ynghyd, gan archwilio’r hyn y mae’r môr yn ei olygu iddyn nhw a pham mae’n bwysig ei ddiogelu i genedlaethau’r dyfodol.

Wedi’i ysbrodoli gan ddarllediad cyhoeddus o Ocean gyda David Attenborough yn Aberystwyth yn gynharach eleni, gwahoddodd y prosiect bobl o bob rhan o Geredigion i rannu deunydd a straeon personol sy’n dathlu eu cysylltiad â’r môr a’r amgylchedd arfordirol.

Cyfrannodd dros 30 o bobl at y prosiect. Wedi’i chynhyrchu a’i golygu gan Steve Buckley, mae’r ffilm yn dilyn dŵr ar ei siwrnai o’r tarddle i’r môr gan amlygu’r angen i warchod cynefinoedd morol rhag llygredd.

Mae’r ffilm yn cynnwys cerddoriaeth o’r Pibydd Coch gan Cerys Hafana, wedi’i chymryd o’i halbwm Edyf a’i defnyddio gyda’i chaniatâd hael. Darparwyd y cyfieithiad Cymraeg gan Mari Ellis-Dunning.

Bydd y ffilm hefyd yn cael ei darlledu ymhellach yn y dyfodol. I gael gwybod am ddarllediadau sydd i ddod a chyfleoedd eraill i weld y ffilm, cofrestrwch i gael yr wybodaeth ddiweddaraf yng nghylchlythyr Natur Ceredigion neu cysylltwch â pffceredigion@hotmail.com