Gwenoliaid Duon yng Nghaerwedros

Gwenoliaid Duon yng Nghaerwedros

Dathlu cymuned, cadwraeth, a’r Gwenoliaid Duon yn dychwelyd i Gaerwedros

Post gwadd gan Wayne Lewis

Eleni cafwyd cam cyffrous ymlaen i gadwraeth natur yng Nghaerwedros, a hynny yn sgil cefnogaeth hael Partneriaeth Natur Ceredigion. Bydd ei chyllid yn ein galluogi i brynu ac adeiladu 25 o systemau galw newydd ar gyfer Gwenoliaid Duon, wedi’u dylunio i ddenu gwenoliaid duon i’r blychau nythu a osodwyd o amgylch y pentref yn gynharach yn y flwyddyn.

Mae ymrwymiad PNC i warchod Gwenoliaid Duon eisoes wedi creu hanes yn yr ardal. Yn gynharach eleni, ariannodd dŵr gwenoliaid duon cyntaf erioed Ceredigion, a ddadorchuddiwyd yn rhan o Ddathliadau pen-blwydd Neuadd Goffa Caerwedros yn 75 oed. Roedd ‘‘agoriad swyddogol’’ y Tŵr ym mis Ebrill yn ddigwyddiad pleserus iawn a ddenodd dros 100 o bobl a ddaeth i glywed Edward Mayer, Sylfaenydd Swift Conservation a Jack Gradidge, y Swyddog Cadwraeth o Folly Farm (neu ‘Pembrokeshire Rhino Whisperer’) yn siarad am y Gwenoliaid Duon a’r anifeiliaid y bydd yr adar gwych hyn wedi’u gweld wrth fudo yn ôl ac ymlaen i Affrica.

Bu Grŵp Gwenoliaid Duon Caerwedros wrth wraidd y mudiad hwn. Mae’r hyn a ddechreuodd yn ymdrech syml i gefnogi Gwenoliaid Duon wedi tyfu i fod yn rhwydwaith o bentrefwyr o bob cefndir—pobl na fyddent efallai erioed wedi cwrdd â’i gilydd fel arall—a ddaeth ynghyd drwy ddiddordeb yn y byd naturiol o’u cwmpas. Mae’r brwdfrydedd hwn eisoes wedi sbarduno prosiectau amgylcheddol ehangach, o blannu blodau gwyllt a chofnodi rhywogaethau i bosibilrwydd prynu darn o goetir lleol. Dewiswyd ein hardal hyd yn oed yn fan cychwyn ar gyfer Prosiect Tylluanod Gwynion Ceredigion, sy’n dyst i gryfder a photensial y gwaith cadwraeth hwn dan arweiniad y gymuned.

Rydym hefyd yn ddiolchgar am gefnogaeth barhaus Jack ‘Rhino Whisperer’ Gradidge, a fu’n weithgar drwy gydol y prosiect ac a fydd yn ein helpu i gydosod y systemau sain newydd yr hydref hwn. Bu ei arbenigedd yn amhrisiadwy.

View of top part of swift tower - a pole going up to an octogonal stepped down structure with circular nest boxes on each face
Brig tŵr y gwenoliaid duon

Efallai mai’r canlyniad mwyaf pleserus oll oedd y ffordd y mae’r prosiect hwn wedi dangos bod pobl yn ymboeni am ein hamgylchedd ac y gallant ddod ynghyd i wneud gwahaniaeth. Un enghraifft berffaith o hyn oedd y pentrefwyr, yn ystod y tonnau gwres diweddar, yn mynd ati’n annibynnol i fonitro achosion o dân mewn coetir cyfagos am fwy nag wythnos i atal ffaglu ailadroddus—ac ni fyddai hyn wedi digwydd heb y cysylltiadau a ffurfiwyd gyntaf trwy brosiect y Gwenoliaid Duon.

Daeth y Gwenoliaid Duon â mwy na harddwch yn unig i awyr haf Caerwedros. Daethant â chymuned at ei gilydd gan danio diddordeb mewn prosiectau yn y dyfodol – pwy a ŵyr ble ddaw hyn i ben. Gyda chefnogaeth PNC, mae’n gyffrous gennym barhau i fagu’r momentwm hwn a chroesawu hyd yn oed mwy o fywyd gwyllt yn ôl i’r pentref a’i amgylchoedd. Ymlaen at 2027!

Ffeithiau Gwenoliaid Duon lleol – rydym bellach yn gwybod am 13 o safleoedd nythu gweithredol yn y pentref, i fyny o 6 o’r blaen. Yn ogystal, gwelwyd criw sgrechlyd o 25 o adar yn gwibio o amgylch awyr y pentref ym mis Awst, a’r ‘record’ blaenorol oedd criw o 15 ddwy flynedd yn ôl

Mwy o wybodaethcaerwedrosswifts@gmail.comhttps://res.cloudinary.com/naturceredigion/image/upload/w_640/v1789479613/260826-swift-tower-caerwedros-169.jpg)