Gŵyl Natur Ceredigion 2026

Gŵyl Natur Ceredigion 2026

Ymunwch â ni am ddiwrnod o fywyd gwyllt, creadigrwydd, darganfod a chymuned yng Ngŵyl Natur Ceredigion, a gynhelir ddydd Sadwrn 11 Gorffennaf, 10am–4pm, ar Dir y Castell, Aberystwyth.

Mae’r ŵyl yn ddathliad rhad ac am ddim o amgylchedd naturiol rhyfeddol Ceredigion, ynghyd â’r bobl, y prosiectau a’r sefydliadau sy’n gweithio i’w warchod a’i adfer. Yn rhan o Wythnos Natur Cymru, daw’r digwyddiad â grwpiau cadwraeth, sefydliadau cymunedol, artistiaid, ymchwilwyr a gwirfoddolwyr lleol ynghyd i ysbrydoli gweithredu dros natur a helpu pobl i gysylltu â’r bywyd gwyllt ar garreg eu drws.

P’un a ydych chi’n naturiaethwr brwd, yn deulu sy’n chwilio am ddiwrnod allan hwyliog, neu’n chwilfrydig am fywyd gwyllt a thirweddau Ceredigion, bydd rhywbeth at ddant pawb.

Gweithgareddau ac Arddangosiadau

Bydd ymwelwyr yn cael cyfle i gwrdd â sefydliadau sy’n gweithio ledled Ceredigion a darganfod prosiectau sy’n helpu natur i adfer ar draws ein sir.

Gweler y rhestr o fynychwyr a gadarnhawyd..

Bywyd Gwyllt a Chadwraeth

Dau blentyn ifanc, un o dan 5, yn defnyddio morthwyl i fwrw blodyn ar fwrdd diddorol yn llawn o bethau diddorol Gwasgu blodau yn yr Ŵyl. Ffoto Neil Constable.

Archwiliwch arddangosiadau a gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar:

  • Warchod afancod ac adfer afonydd
  • Gwarchod a monitro ystlumod
  • Bywyd gwyllt morol a chynefinoedd arfordirol
  • Gwarchod dolffiniaid
  • Prosiectau sy’n gyfeillgar i beillwyr
  • Dolydd blodau gwyllt a garddio sy’n gyfeillgar i natur
  • Adfer cynefinoedd ac adfer rhywogaethau

Dysgwch sut mae cymunedau, gwirfoddolwyr a sefydliadau cadwraeth lleol yn cydweithio i wella cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt ac adeiladu amgylchedd naturiol mwy gwydn.

Gweithgareddau i’r Teulu

Family at the Seawatch stall Mae yna lawer o weithgareddau – teulu wrth y stondin Seawatch Foundation. Ffoto Neil Constable.

Bwriedir i’r ŵyl fod yn hwyl ac yn ddiddorol i bob oedran, gydag amrywiaeth o weithgareddau ymarferol gan gynnwys:

  • Rhyngweithio ag Anifeiliaid
  • Swynwr Natur
  • Peintio wynebau
  • Crefftau natur
  • Gemau ar thema bywyd gwyllt
  • Adrodd straeon
  • Gweithgareddau pypedau’r gylfinir

Gall plant a theuluoedd ddarganfod natur trwy chwarae, creadigrwydd ac archwilio.

Y Celfyddydau a Diwylliant

Photo of a framed photo of Puffins and a small pot Pâr o Balod, gan y ffotograffydd Hannah Kerr Hannah Kerr

Mae natur yn ysbrydoli artistiaid, ffotograffwyr a storïwyr ers amser maith. Bydd yr ŵyl yn arddangos:

  • Ffotograffiaeth natur
  • Gwaith gan artistiaid lleol
  • Celf amgylcheddol a phrosiectau creadigol

Mae’r gweithgareddau hyn yn dathlu’r cysylltiad rhwng pobl, diwylliant a’r byd naturiol.

Bwyd a Lles

Mae natur o fudd i’n hiechyd a’n lles mewn llawer o ffyrdd. Gall ymwelwyr archwilio:

  • Gwybodaeth am fwyd gwyllt
  • Defnyddiau planhigion llysieuol a thraddodiadol
  • Lluniaeth a chynnyrch wedi’u hysbrydoli’n lleol

Gŵyl i Bawb

Merch ifanc a’i hwyneb wedi’i beintio fel Spiderman, yn ymestyn ei llaw i ddangos ei thechneg lluchio gwe Peintio wynebau i bry cop – mae anifeiliaid eraill ar gael hefyd. Ffoto Neil Constable.

Mae Gŵyl Natur Ceredigion yn gyfle i ddarganfod amrywiaeth anhygoel y bywyd gwyllt a’r cynefinoedd a geir ledled ein sir, o afonydd a choetiroedd i ddolydd, gwlypdiroedd a’r amgylchedd morol. Mae hefyd yn gyfle i gwrdd â’r bobl sy’n helpu natur i ffynnu a dysgu sut y gall pawb chwarae rhan mewn adferiad natur.

Mae’r digwyddiad yn cefnogi nodau Partneriaeth Natur Ceredigion, sy’n dwyn ynghyd gyrff cyhoeddus, sefydliadau amgylcheddol, grwpiau cymunedol, busnesau ac unigolion i helpu i warchod a gwella natur ar draws y sir.

Manylion y Digwyddiad

MYNEDIAD AM DDIM

Mae croeso i bawb.

Dewch yn llu, i gwrdd â sefydliadau lleol, cymryd rhan mewn gweithgareddau, a dathlu’r bywyd gwyllt a’r tirweddau sy’n gwneud Ceredigion yn lle mor arbennig.

Mynychwyr wedi’u cadarnhau

SefydliadDigwyddiad neu weithgaredd
Age Cymru DyfedStondin wybodaeth a deunyddiau hyrwyddo
Animal CwtchProfiad anifeiliaid rhyngweithiol
Arolygiaeth Rhywogaethau EstronArddangosfa o waith amrywiol yr Arolygiaeth
Borth AnimalariumProsiect Llygod yr Ŷd - profiad anifeiliaid a stondin wybodaeth, deunydd hyrwyddo
Canolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin CymruStondin wybodaeth yn rhannu gyda Grŵp Ystlumod Gogledd Ceredigion
Cefn GarthenorProsiect afancod, stondin wybodaeth dad-ddofi tir a deunyddiau hyrwyddo
Cerddwyr AberystwythStondin wybodaeth a deunyddiau hyrwyddo
CJ Wildlife ArtArtist bywyd gwyllt Prydeinig, gwaith celf gwreiddiol, printiau a sticeri ac ati
Coed Rhosmaen Crug, Natur Ni, Maeve MoranHyrwyddo’r coetir a dau wahanol weithdy
Coedwig Gymunedol LongwoodHyrwyddo coedwig gymunedol fwyaf Cymru
Cyngor Sir Ceredigion, Tîm Cydraddoldeb a ChynhwysiantArolwg llesiant a gwneud bathodynnau
Cwtsh Natur CeredigionMan i eistedd a sgwrsio, bwyta cinio ac ati
Dave PricePren turniedig a chrefftau wedi’u gwneud o bren wedi’i ailgylchu neu ei dyfu’n lleol
Dyfed PowysYn disgwyl cadarnhad
Dysgu Gydol Oes Prifysgol AberystwythDeunyddiau hyrwyddo eu cyrsiau Ecoleg, Cadwraeth a Gwyddoniaeth
Eglwys Eco Santes AnneRhannu gwybodaeth am eu Heglwys Eco
EnvirocultureStondin wybodaeth a deunyddiau hyrwyddo
Fferm DenmarcAdnabod natur, gweithgareddau a gwybodaeth
Garden MedicinalsPlanhigfa o blanhigion meddyginiaethol a chynhenid
Green Cottage GardenerGwerthu planhigion – perlysiau a blodau parhaol wedi’u tyfu’n lleol heb fawn
Green Goat CafeBwyd stryd rhyngwladol iachus i’ch digoni o gynhwysion lleol
Grounded TranquilityStondin grefft – pyrograffeg, darnau bach o grochenwaith
Grŵp Ystlumod Gogledd CeredigionStondin wybodaeth a deunyddiau hyrwyddo
Gwenoliaid Duon Caerwedros SwiftsStondin wybodaeth am brosiect Gwenoliaid Duon Caerwedros
Gwenynwyr Cymraeg CeredigionStondin wybodaeth am wenyn mêl, y Gacynen Felyngoes, peillwyr yn gyffredinol
Gwrachod EryriGwrachod sy’n dawnsio sydd wrth eu bodd â byd natur a gweithdy
Hannah Kerr PhotographyYn gwerthu delweddau ffotograffig o natur leol wedi’u printio ar ddarnau amrywiol
Hawliau TramwyYn hyrwyddo cerdded, beicio a marchogaeth ar draws rhwydwaith Hawliau Tramwy Ceredigion ac opsiynau gwirfoddoli
Ice GreenGelato fegan wedi’i wneud yn Aberteifi.
Jo Swannell - West Wales MuralsYn gwerthu printiau, cardiau a darnau wedi’u peintio â llaw (olew, acrylig) o thema natur.
Jules Face PaintingPeintio wynebau am ddim gyda thema natur
Llyfrau Ystwyth BooksGwerthu llyfrau
Lychen ChyldGwaith celf a darluniau o fyd natur a bywyd gwyllt - rhai gwreiddiol, printiau a rhoddion
Magic of Life Butterfly HouseTrin pryfed, addysg a rhoddion
Megan SwannSioeau Hud Amgylcheddol – rhyw 15 munud o sioe bob awr
Meithrinfa blanhigion Hafan y CoedStondin blanhigion – Fforest fwyd, cynnyrch bwytadwy a phlanhigion i beillwyr – rhai addurniadau i’r ardd hefyd
Milly JackdawAdrodd straeon a sain
Parents for Future CeredigionStondin grefftau o thema’r môr gyda thanc acwariwm a gwybodaeth
Partneriaeth Bwyd CeredigionGweithgareddau cysylltiedig â bwyd a phlannu hadau blodau haul.
Prifysgol AberystwythStondin wybodaeth a deunyddiau hyrwyddo
Prosiect Afancod Cymru ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd CymruStondin wybodaeth ac eitemau hyrwyddo
Pyllau HeddwchDefaid Trwyn Du Valais Swisaidd a llo’r Ucheldir. Stondin wybodaeth,
RTT Environmental ConsultancyHysbysebu ac ennyn diddordeb pobl yng ngwaith Gwasanaethau Ymgynghori Amgylcheddol.
Sea Watch FoundationStondin wybodaeth, eitemau hyrwyddo a gweithgareddau
SefydliadDigwyddiad neu weithgaredd
SisterVisionSgwrs ddofn, wedi’i hwyluso am natur gyda ffocws ar groestoriadedd: 11am-12 canol dydd a 2-3pm
Taith Gerdded Eco GwiarTaith gerdded yn archwilio bod yn gwiar ac ecoleg.
Teithiau Cwch i Weld DolffiniaidGwybodaeth am Deithiau Cwch i Weld Dolffiniaid. Ceinewydd
Teithiau Gweld DolffiniaidYn disgwyl cadarnhad
Tide and Seek CreativeArtist cyfryngau cymysg yn gwerthu gwaith celf gwreiddiol, printiau, llieiniau sychu llestri a chardiau
Tir NaturStondin wybodaeth gydag ymarfer mapio cymdeithasol ynghylch Cwm Doethie
Wild PickingsTaith gerdded meddyginiaeth a bwyd gwyllt gyda phaned o de yn y Cwtsh Natur ar y diwedd
Ymddiriedolaeth Adareg PrydainStondin wybodaeth a deunyddiau hyrwyddo
Ymddiriedolaeth Natur De-orllewin CymruArddangosfa wybodaeth gyda thiwtorialau am gân adar