Cyflwyno Eich Darn Gwyllt

Cyflwyno Eich Darn Gwyllt

Yusef Samari, Swyddog GIS CGBGC ac Arweinydd Prosiect yusef@westwalesbiodiversity.org.uk

Pa fath o fywyd gwyllt sy’n byw yn eich lle gwyllt chi – eich gardd, eich hoff warchodfa natur, parc lleol neu beth bynnag mae ‘eich lle’ yn ei olygu i chi? Sut mae eich lle chi yn cyfrannu at fioamrywiaeth ehangach yn eich ardal? Pa gyfraniad y gallai ei wneud?

Dyma’r math o gwestiynau yr hoffem i bobl feddwl amdanyn nhw yn y prosiect ‘Eich Darn Gwyllt’, oherwydd nod hwnnw yw adeiladu hanes natur a chofnodi sgiliau yn y gymuned. Wedyn i ddefnyddio’r sgiliau hynny i gofnodi bywyd gwyllt yn eu lle gwyllt lleol – neu ymhellach i ffwrdd!

Mae’r prosiect hwn a fydd yn para tan fis Mawrth 2027, yn cael ei redeg dan gynllun grant bioamrywiaeth Lleoedd Lleol ar gyfer Natur dan Lywodraeth Cymru. A chyda Phartneriaethau Natur Lleol Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro rydym yn gweithio’n agos ar y prosiect.

Your Wild Patch circular logo
Logo presennol y prosiect – gwaith celf gan Carys May

Yn ystod y dwy flynedd nesaf byddwn yn datblygu system i bobl gael mabwysiadu darn i’w gofnodi, ynghyd ag adnoddau i’w helpu i nodi eu bywyd gwyllt lleol a gosod eu darganfyddiadau mewn cyd-destun. Byddwn hefyd yn rhedeg rhaglen o sesiynau ‘Gwylio Bywyd Gwyllt Gorllewin Cymru’ – sesiynau cofnodi agored rheolaidd o gwmpas yr ardal, lle gall pobl ddatblygu eu sgiliau mewn grwpiau anffurfiol. Cysylltwch â ni i ychwanegu eich enw at y rhestr bostio os hoffech gael rhagor o fanylion am hyn!

Newydd ddechrau mae’r prosiect, a rydym yn gweithio gydag amrywiol grwpiau, o ddechreuwyr i gofnodwyr profiadol, i’n helpu i dreialu a datblygu adnoddau. Os hoffech gymryd rhan, neu os hoffech drefnu rhai o’r sesiynau cofnodi yn eich ardal, cofiwch gysylltu! Mae’r erthygl hon yn amlinellu’r hyn rydym wedi ei wneud hyd yma, beth rydym wedi ei ddysgu ac i ble rydym yn mynd.

Gwaith hyd yma – adnoddau

Crynodebau Cofnodi

Gall y ‘crynodebau cofnodi’ hyn gael eu cynhyrchu ar gyfer unrhyw sgwâr 1km OS, neu ar gyfer ffin un rhyw safle. Er enghraifft, isod mae fy ‘sgwâr cartref’ i – yn cynnwys rhan ddeheuol Aberteifi a’r wlad o gwmpas.

Mae’r crynodeb hwn yn rhoi talfyriad cyffredinol o’r holl gofnodion o’r sgwâr, yn eu mapio ac yn dadansoddi nifer y gwahanol rywogaethau sydd wedi eu cofnodi ar gyfer pob grŵp tacson. Mae hefyd yn dadansoddi nifer y cofnodion bob blwyddyn, i roi syniad o ddwysedd y dadansoddi. Y bwriad yw iddynt ychwanegu at y ‘Beth sydd yn fy Ardal i ar Aderyn, lle gall defnyddwyr chwilio am restr amhenodol ar gyfer unrhyw sgwâr o 1km - aderyn.lercwales.org.uk/public/search

Infographic dashboard for wildlife observations, showing maps, tables and bar charts
Crynodeb cofnodi ar gyfer sgwâr 1lm Arolwg Ordnans SN1745

Mae llawer o bobl yn rhyfeddu gweld cynifer o rywogaethau sydd wedi eu cofnodi o’u sgwâr nhw, yn enwedig os nad ydynt yn gyfarwydd â rhai grwpiau neu heb fod yn disgwyl gweld cannoedd o fathau o wyfynod, neu ddwsinau o folysgiaid! Yn yr un ffordd, bydd llawer yn rhyfeddu gweld cyn lleied o fathau sydd wedi eu cofnodi o rai rhywogaethau.

Hyd yn hyn rydym wedi cynhyrchu dros 100 o’r crynodebau hyn, a dydyn ni ddim eto wedi dod ar draws un lle nad oes bylchau amlwg mewn o leiaf un grŵp, hyd yn oed ar gyfer sgwariau gyda nifer fawr o grynodebau cofnodi. Mae’r gwaith ar y crynodebau hyn yn parhau, ac mae nifer o ffyrdd y gellir eu gwella.

Fodd bynnag, hyd yn oed yn eu ffurf bresennol, maent wedi bod yn ffordd effeithiol iawn i dynnu sylw at fylchau gan gychwyn trafodaeth, ac mewn llawer achos yn ysgogi pobl i fynd allan i geisio llenwi’r bylchau hynny.

Er enghraifft, rwy’n gweld mai 2 rywogaeth yn unig sydd wedi eu cofnodi o ffyngau yn fy sgwâr i, a dim bryoffytau, sy’n rhoi syniadau diddorol imi ganolbwyntio arnynt yn y gaeaf wrth geisio gwella’r ddau grŵp hyn.

‘Rhestri Rhywogaethau Cychwyn’

Caiff y dogfennau hyn eu paratoi i gyd-fynd â’r crynodebau cofnodi ac ychwanegu atynt. Maent yn rhoi rhestr o 100 o rywogaethau sy’n hawdd eu hadnabod, gan gwmpasu’r holl brif rywogaethau wedi eu cofnodi yn y crynodebau cofnodi. Maent hefyd yn dweud pryd y cawsant eu cofnodi ddiwethaf yn y sgwâr, os o gwbl - o leiaf yn ôl y cofnodion sydd gan CGBGC. Mae rhywogaethau cyfarwydd wedi eu cynnwys yn fwriadol.

Ar gyfer rhai o’r grwpiau llai cyfarwydd, megis cen, ffyngau a’r rhai fwyaf o greaduriaid di-asgwrn-cefn, mae detholiad o rywogaethau wedi eu dewis sy’n gymharol hawdd i’r dechreuwr eu hadnabod, gyda nodweddion amlwg y gellir eu cadarnhau heb gymorth microsgop ac sy’n debygol o fod yn bresennol yn y rhan fwyaf o ddarnau tir. Mae’r llun yn dangos rhan uchaf y rhestr yn unig ar gyfer fy sgwâr cartref i.

Screenshot of table of species from WWBIC starter species list
Detholiad o ‘Rhestr Rhywogaethau Cychwyn’ ar gyfer SN1745

Dydy’r rhestr hon ddim yn cynnwys popeth y gellir ei gofnodi, ond gobeithio y gall ddarparu mannau cychwyn da i’r rheiny a fyddai’n gweld hynny’n ddefnyddiol, yn enwedig dechreuwyr. Iddyn nhw gall cofnodi ymddangos yn dasg ddiddiwedd a thorcalonnus. Gellir printio’r rhestr gyfan o 100 o rywogaethau ar ddwy ochr dalen A4, felly rydym wedi gallu mynd ag un copi i bob sesiwn sydd wedi ei rhedeg, yn benodol ar gyfer y lleoliad hwnnw.

Y rhan fwyaf o’r amser, pan gaiff y rhain eu dangos i grŵp, bydd o leiaf un person yn dweud ‘o, rydw i wedi gweld hwn yma o’r blaen!’. Er bod y rhestr yn llawn o rywogaethau cyfarwydd, dydyn ni ddim wedi dod ar draws sgwâr lle mae’r rhestr hon yn ‘gyflawn’, neu hyd yn oed un sydd ag o leiaf un marc am bob grŵp o rywogaethau!

Gwaith hyd yma - digwyddiadau

Ers 19 Tachwedd 2025 rydym wedi rhedeg 29 o ddigwyddiadau cofnodi ledled y rhanbarth, 10 yr un yng Ngheredigion a Sir Benfro a 9 yn Sir Gaerfyrddin gyda 176 o bobl yn bresennol a 200+ o enwau ar y rhestr bostio. Mae’n siwr y bydd y rhestr hon yn hen erbyn ichi ei darllen, felly darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf yn – wwbic.org.uk/projects/your-wild-patch-eich-darn-gwyllt/

Mae’r rhan fwyaf o’r rhain wedi eu hysbysebu fel rhan o’n cyfres ‘Bywyd Gwyllt Gorllewin Cymru’. Sesiynau agored, anffurfiol am ddim yw’r rhain sy’n rhoi lle i nodi a chofnodi hyfforddiant, a chyfle i ymarfer sgiliau mewn grŵp cyfeillgar. Bydd pob sesiwn fel rheol yn digwydd o 10am i 1pm. Byddwn yn cynnwys sgiliau sylfaenol cofnodi, yn cyflwyno app LERC Cymru, yna’n cyflwyno cynefinoedd lleol, ac yn nodi a chofnodi’r hyn welwn ni ar y ffordd, gan ganolbwyntio ar wahanol grwpiau mewn gwahanol dymhorau.

Montage of photos of people IDing species in different situations
Lluniau o ddigwyddiadau cofnodi/hyfforddi CGBGC – o’r prosiectau Eich Darn Gwyllt a’r Pecyn Cofnodi.

Yn ogystal â’r sesiynau agored hyn yn yr awyr agored, rydym yn dal i ddarparu hyfforddiant yn canolbwyntio mwy, ac yn arbennig gyda grwpiau cymunedol yn aml yn cynnwys sesiwn ystafell ddosbarth dan do. Ymhlith y grwpiau rydym wedi gweithio gyda nhw hyd yma mae Carmarthenshire Meadows Group, Gardd Gymunedol Parc Cerrig yn Wdig, Pobl y Fforest yn Keepers, Brechfa a nifer o rai eraill.

Mae’r adborth o’r sesiynau wedi bod yn gadarnhaol iawn, a’r ymatebion yn dangos bod y sesiynau wedi helpu pobl i fod yn hyderus wrth gofnodi a nodi ac wrth sylwi ar natur. Rydym yn dechrau gweld nifer fach sy’n tyfu’n gyson o bobl yn dod yn rheolaidd a chofnodi’n rheolaidd.

I ble rydym yn mynd

Yn y map isod gwelir lleoliadau digwyddiadau ar gyfer y prosiect, a’r holl sgwariau 1km lle rydym wedi anfon pecynnau gwybodaeth at bobl ar 18/11/2025. At hynny, mae tua 45 o bobl wedi cael adnoddau ar gyfer ffiniau safleoedd penodol ar draws y rhanbarth. Mae’r rhain yn amrywio o ychydig fetrau sgwâr i goedlannau cymunedol o gannoedd o hectarau.

Map of Your Wild Patch engagement across Ceredigion, Pembrokeshire and Carmarthenshire
Lleoliadau digwyddiadau a sgwariau lle mae pobl wedi cael adnoddau ar gyfer y prosiect hyd yma

Hyd yn oed mor gynnar â hyn yn hanes y prosiect, mae hwn yn gylch sylweddol. Bwriadwn ddal i adeiladu a thyfu’r gymuned hon, ond rydyn ni hefyd am eu helpu i gynyddu eu sgiliau a’u defnyddio’n dda. Y cam nesaf yw gwella’r hyn y gall ‘mabwysiadu’ darn tir ei olygu’n ffurfiol.

Rydym yn defnyddio dull agored o gyd-gynllunio yn y broses hon, gan gychwyn drwy sgyrsiau gyda’n harbenigwyr lleol mewn cadwraeth sy’n defnyddio data CGBGC, arbenigwyr rhywogaethau lleol, cofnodwyr addawol a phrofiadol a’r amrywiol grwpiau rydym yn gweithio gyda nhw. Mae hwn yn ddull arafach na dim ond taro rhywbeth at ei gilydd, ond gobeithio’i fod yn cynyddu’r cyfle i greu rhywbeth ystyrlon a chadarn.

Rydym yn anelu at weithio tuag at ‘gynllun cofnodi’ y gellir ei ddilyn am flwyddyn ar gyfer darn tir, sy’n gweithio drwy wahanol grwpiau o rywogaethau, tymhorau a chynefinoedd, ac yn cysylltu ag amcanion lleol i adfer natur.

Bydd digon i’w wneud yn ystod y 18 mis nesaf, a dyna pam rydym yn recriwtio Swyddog Prosiect amser llawn i gefnogi staff CGBGC gyda’r prosiect. Cadwch eich llygaid ar agor am ddiweddariadau yn y dyfodol! Os hoffech ymuno â digwyddiadau Gwylio Natur Wyllt Gorllewin Cymru neu gael unrhyw wybodaeth am eich darn tir chi, cysylltwch â ni!