Cynllun Gweithredu Adfer Natur

Cynllun Gweithredu Adfer Natur

Mae Ceredigion yn lle arbennig. Sir bedwerydd fwyaf Cymru o ran arwynebedd tir, mae Ceredigion yn gartref i lawer o ecosystemau diddorol.

Mae’r Cynllun Gweithredu Adfer Natur (NRAP) yn cynrychioli’r ymgais gyntaf i greu strategaeth gynhwysfawr ond hygyrch i helpu adfer natur yn y sir. Er bod dogfennau a chynlluniau blaenorol wedi’u cyhoeddi, mae’r NRAP hwn yn ceisio cynrychioli gweledigaeth newydd ar gyfer adfer natur, un sy’n agored i bawb yn y sir sy’n dymuno cymryd rhan. Dim ond trwy ddull cydweithredol, trawsgymdeithasol gwirioneddol y gellir gweithredu’r NRAP hwn, a chyflawni adferiad natur.