Cyfarfodydd y Bartneriaeth

Ymweliad y bartneriaeth â lloc yr Afancod yng Nghefn Garthenor ym mis Gorffennaf 2026
Cyfarfodydd nesaf
Cyfarfodydd dydd Mawrth: 10am-4pm.
- Dydd Mawrth 20 Hydref 2026 - Caerwedros
- Dydd Mawrth 19 Ionawr 2027 – i’w gadarnhau
Mae Partneriaeth Natur Leol (PNL) Ceredigion yn cynnal cyfarfodydd chwarterol sy’n dwyn ynghyd aelodau o’r cyhoedd, sefydliadau ac ymarferwyr sydd â diddordeb cyffredin mewn natur.
Mae’r cyfarfodydd yn lle cyfeillgar ac agored i drafod yr hyn sy’n digwydd yn lleol ac yn genedlaethol, rhannu syniadau, ac archwilio beth arall y gellir ei wneud i gefnogi natur ledled Ceredigion. Bob blwyddyn cynhelir tri chyfarfod hybrid (yn bersonol gydag opsiwn ar-lein) ac un cyfarfod ar-lein yn unig ym mis Ionawr, gan ei gwneud hi’n hawdd i bawb gymryd rhan.
Fel rheol, mae’r agendâu yn cynnwys:
- Diweddariadau gan aelodau’r PNL
- Diweddariadau gan Gyngor Sir Ceredigion
- Cyflwyniadau a siaradwyr ysbrydoledig o bob cwr o Gymru
- Cyfleoedd i drafod a rhannu gwersi a ddysgwyd
O bryd i’w gilydd, gall cyfarfodydd hefyd gynnwys ymweliadau safle ag ardaloedd natur lleol, dan arweiniad siaradwyr gwybodus sy’n gallu rhannu mewnwelediadau i gynefinoedd, rhywogaethau ac adferiad natur ymarferol ar lawr gwlad.
Mae pob cyfarfod yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb. P’un a ydych chi’n rhan o sefydliad, yn rheolwr tir, yn wirfoddolwr neu ddim ond â diddordeb mewn natur, mae croeso mawr i chi ymuno â ni.
Cyfarfodydd blaenorol

Cyfarfod y bartneriaeth ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
- 21 Gorffennaf 2026 - Neuadd Goffa Tregaron, Ceredigion SY25 6JL
- 21 Ebrill 2026 - Neuadd Goffa Ceinewydd, Ceinewydd SA45 9QQ
- 20 Ionawr 2026 — Ar-lein
- 23 Hydref 2025 — Castell Aberteifi, Aberteifi SA43 1JA
- 17 Gorffennaf 2025 — Yr Hwb, Penparcau, Aberystwyth SY23 1RU
- 25 Ebrill 2025 — Gwesty’r Llanina Arms, Llanarth SA47 0NP
- 17 Ionawr 2025 — Ar-lein