Cynllun Grantiau

Mae Partneriaeth Natur Ceredigion yn rheoli cyllid ar gyfer prosiectau cyfalaf sy’n canolbwyntio ar “natur ar garreg eich drws”, gan dargedu bioamrywiaeth a chymunedau difreintiedig.

Grainy photo showing rows of new beds and fruit trees in a row
Coed ffrwythau a rhandir

Cynllun Grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur 25/26

Nid ydym bellach yn derbyn ceisiadau ar gyfer y cynllun hwn, gan fod yr holl gyllid sydd ar gael wedi’i ddyrannu. Bydd cyhoeddiadau ynglŷn ag unrhyw gynlluniau grant yn y dyfodol yn cael eu gwneud yma ac ar wefan Natur Ceredigion.

Cynllun Grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur 24/25

Lansiodd Partneriaeth Natur Ceredigion ei chynllun grantiau Lleoedd Lleol ar gyfer Natur ar gyfer 2024 gyda £350,000 i’w ddosbarthu. Roedd y cynllun yn gwahodd ceisiadau gan brosiectau gwerth hyd at £50,000 am gyllid Cyfalaf.

Three Friends of Netpool on a bench, holding 3 signs that say THANKS CEREDIGION LOCAL NATURE PARTNERSHIP
Cyfeillion Parc Netpool, Aberteifi

Cafwyd 35 o geisiadau i gyd, a oedd yn werth £758,093.69 gyda’i gilydd.

Cymeradwyodd y panel 23 o brosiectau, a restrir isod. Cynigiwyd cyllid rhannol i rai prosiectau.

  1. Canolfan gymunedol dysgu coetir.
  2. Adfer pyllau, lleiniau tyfu, blychau ystlumod ac offer arolwg ar gyfer grŵp gwirfoddol myfyrwyr.
  3. Prynodd grŵp Ystlumod synwyryddion statig Audiomoth ac offer addysgol.
  4. Lleiniau tyfu cymunedol mewn gardd furiog.
  5. Gwella lle tyfu, creu pwll a chynefinoedd eraill, plannu llwyni ffrwythau a choed, ystafell ddosbarth awyr agored.
  6. Bywyd gwyllt, tyfu bwyd, a gwella dolydd.
  7. Plannu gwrychoedd, creu llwybr natur hygyrch i’r anabl.
  8. Rhandiroedd gardd furiog.
  9. Gardd natur mewn ysgol gan gynnwys ardal pryfed, blychau adar, priffordd draenogod, ardal gwylio bywyd gwyllt, ardal peillwyr.
  10. Peiriannau torri gwair.
  11. Blychau ystlumod, blychau tylluanod, offer compostio, gardd blodau gwyllt.
  12. Gardd therapiwtig i blant.
  13. Prosiect gardd gymunedol.
  14. Adfywio parc cymunedol er bioamrywiaeth.
  15. Gardd therapiwtig sy’n pontio’r cenedlaethau.
  16. Gardd natur ysgol.
  17. Camerâu tylwyth y Wiwer Goch.
  18. Monitro cynefinoedd ac adfer mawndir gan wirfoddolwyr.
  19. Prosiect pwll bywyd gwyllt mewn ysgol.
  20. Bocsys adar.
  21. Gardd a chanolfan bywyd gwyllt mewn ysgol
  22. Gardd Gymunedol
  23. Llwybr estyllod dros gors mewn ysgol a phlannu er mwyn peillwyr/cynefin.